 |
|
 |
 |  |  | | Gwesty Cymru Bwyty a Lloftydd |  |  |  |  |  | Mae Gwesty Cymru yn adeilad rhestredig gradd 2 mewn ardal gadwraeth. |  |  | |  |  |  | Cyfeiriad y Gwesty yw 19 Rhodfa’r Môr, Aberystwyth, ar y prif Bromenâd. Dilynwch yr arwyddion at lan y môr ac anelwch am y pier, gan�deithio â'r môr ar yr ochr dde i chi a'r gwestai ar yr ochr chwith. |  |  | |  |  |  | Mae'r gwesty gyferbyn â glanfa fechan ar yr ochr chwith, ychydig bellter o'r palmant. |  |  | |  |  |  | Gellir aros y tu allan i'r gwesty i adael gwesteion allan o gerbyd. |  |  | |  |  |  | Mae lleoedd parcio rhad ac am ddim am gyfnodau penodol ar hyd y Promenâd. |  |  | |  |  |  | Gellir cadw lleoedd parcio preifat diogel drwy drefniant ymlaen llaw. |  |  | | |  | | Y Brif Fynedfa |  |  |  | I fynd at y brif fynedfa o'r palmant mae gofyn dringo dau ris a thrwy gât, wedyn mynd ar hyd llwybr o 30 troedfedd sy'n goleddu i fyny ac sy'n arwain at chwe gris llechen sy'n bum troedfedd o led a rhwng 5" ac 8" o uchder, a rhwng 14" a 22" o ddyfnder. |  |  |  | Mae canllaw bob ochr i'r grisiau hyn. |  |  | |  |  |  | Mae'r grisiau yn arwain at y porth ac un gris drwy'r drws ffrynt sy'n dair troedfedd o led ac yn 7" o uchder. |  |  | |  |  |  | Nid yw ymyl flaen y grisiau hyn wedi ei hamlygu. |  |  | |  |  |  | Mae'r brif fynedfa yn arwain at y cyntedd. |  |  | |  |  |  | Mae desg y dderbynfa 30 troedfedd o'r brif fynedfa. |  | |  |  |  | Does dim lle i eistedd yn y dderbynfa. |  | |  |  |  | Mae rhywun yn gweithio yn y dderbynfa 24 awr y dydd, ac mae System Dolen Sain yno. |  | |  |  |  | Mae desg y dderbynfa yn bedair troedfedd o uchder. |  | |  |  |  | Mae clipfwrdd ar gael os na fyddai'r ddesg yn addas. |  | |  |  |  | Mae mynedfa ar gael yn y cefn hefyd. |  | |  |  |  | Lôn gefn gul sy'n arwain at y fynedfa hon ac mae gofyn troi cornel 90 gradd i fynd at y drws. |  | |  |  |  | Un gris sydd wrth y fynedfa hon, ac mae'n 35½" o led, yn 8" o uchder ac yn 15½" o ddyfnder. |  | |  |  |  | Nid yw ymyl flaen y gris wedi ei hamlygu ac nid oes canllaw yno. |  | |  |  |  | Lled glir y drws wedi'i agor yw 27". |  | |  |  |  | Mae'r trothwy yn 6" o uchder ac yn 27" o led. |  | |  |  |  | Mae gwasanaeth porthor ar gael ar gyfer cludo bagiau. |  |  | |  | |  | | Ystafell Wely |  |  |  |  |  | Mae wyth ystafell wely yn y gwesty. |  |  | |  |  |  | Mae setiau teledu LCD wedi eu gosod ar y wal ymhob ystafell, gyda rheolydd pell, chwaraewyr DVD a Freeview, tegellau diwifr, sychwyr gwallt, offer smwddio, ffôn wrth erchwyn y gwely, a chysylltiad diwifr i'r we. |  |  | |  |  |  | Mae golau da uwchben a golau ychwanegol wrth erchwyn y gwely. |  |  | |  |  |  | Mae mannau storio ar gael ar sawl uchder gwahanol ac mae'n hawdd gafael yn y dolenni i agor gwahanol ddrysau'r mannau storio. |  |  | |  |  |  | Mae dolenni trosol ar ddrysau'r holl ystafelloedd gwely, ac mae'r drysau'n agor i mewn. |  |  | |  |  |  | Mae dolenni trosol ar ddrysau'r holl ystafelloedd ymolchi, ac maelr drysau'n agor i mewn, heblaw am ddrws Ystafell 8, sy'n agor allan. |  |  | |  |  |  | Mae ystafelloedd ymolchi en-suite ymhob ystafell, gyda bath a/neu gawod ymhob un. |  |  | |  |  |  | Mae carped ar loriau'r ystafelloedd gwely, a theiliau ar loriau'r ystafelloedd ymolchi. |  |  | |  |  |  | Cerrig naturiol yw'r teiliau ar loriau'r ystafelloedd ymolchi, ac mae matiau bath er mwyn helpu i atal pobl rhag llithro. |  |  | |  |  |  | Nid oes canllawiau bachu yn yr ystafelloedd ymolchi. |  |  | |  |  |  | Mae'r gweithdrefnau dianc mewn tân wedi eu nodi'n glir ar gefn drws pob ystafell wely. |  |  | |  |  |  | Mae dwy ystafell wely ar gael ar y llawr gwaelod. |  |  | | |  | | Arwain at bob llawr |  |  |  |  |  | Does dim lifft ar gael. |  |  | |  |  |  | Grisiau crwm â charped arno sy'n arwain at bob llawr, a chanllaw ar un ochr i'r grisiau (ar yr ochr dde i esgyn y grisiau, yr ochr chwith i'w disgyn). |  |  | |  |  |  | Mae'r grisiau yn dair troedfedd o led, yn 6" o uchder ac yn 9.5" o ddyfnder. |  |  | |  |  |  | Mae gofyn dringo 16 gris i gyrraedd y llawr cyntaf. |  |  | |  |  |  | Mae 16 gris yn ychwanegol at hynny er mwyn cyrraedd yr ail lawr. |  |  | |  |  |  | Mae 14 gris yn ychwanegol at hynny er mwyn cyrraedd y trydydd llawr. |  |  | |  | |  | | Bwyty a Bar |  |  |  |  |  | Yn y seler y mae'r bwyty a'r bar, a gellir mynd yno drwy esgyn 14 gris o ddesg y dderbynfa. Mae'r grisiau hyn yn 30" o led, yn 10.5" o ddyfnder ac yn 7.5" o uchder. |  |  | |  |  |  | Ar y llawr hwn y gweinir brecwast. |  |  | |  |  |  | Gellir gweini brecwast yn yr ystafelloedd gwely ar gyfer pobl nad ydynt yn medru cyrraedd at y bwyty. |  |  | |  |  |  | Mae gwasanaeth gweini ar gael bob amser. |  |  | |  |  |  | Gellir darparu bwydlen print bras drwy drefniant ymlaen llaw. |  |  | |  |  |  | Gellir darparu ar gyfer deietau arbennig drwy drefniant ymlaen llaw. |  |  | |  |  |  | Mae tai bach y cwsmeriaid ar y llawr gwaelod. |  |  | |  |  |  | Nid yw tai bach y cwsmeriaid wedi eu haddasu ar gyfer cadeiriau olwyn. |  |  | |  | |  | | Amrywiol |  |  |  |  |  | Mae croeso i gwn cymorth. |  |  | |  |  |  | Larymau tân clywadwy sydd yn y gwesty. Mae'r perchnogion yn cydnabod nad yw hyn yn addas i bob gwestai o reidrwydd ac rydym yn barod i drafod ffyrdd eraill o rybuddio a gweithdrefnau dianc eraill adeg archebu neu gyrraedd y gwesty. |  |  | |  | |  | Rydym yn barod i roi cyngor ar addasrwydd y gwesty ar sail anghenion unigol, felly cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ofynion arbennig. |  |  |  |
|  |
|
|
 |
 |
 |