Please click here to view the site in English
GWESTY CYMRU HOTEL & RESTAURANT


CROESO
BWCIO
STAFELLOEDD
BWYTY
ATYNIADAU & GWEITHGAREDDAU
LLEOLIAD / CYSYLLTWCH Â NI
AMDANON NI
DATGANIAD HYGYRCHEDD


GWESTY CYMRU
19 Rhodfa'r Môr, Aberystwyth
Ceredigion SY23 2AZ

Ffôn: + 44 (0) 1970 612252
ebost:


Relax and unwind at our seafront terrace and bijou cellar bar.
Croeso i Gwesty Cymru Stunning Views from our terrace bar over Cardigan Bay and the West Coast of Wales
amdanon ni

Mi brynom yr adeilad yn ystod 2005 a'r bwriad oedd ei weddnewid i'n syniad personol ni o'r hyn y dylai gwesty moethus Cymreig fod, yn croesawu ein hymwelwyr gyda dathliad o ddoniau Cymreig:

Yr artist lleol Bethan Clwyd fu'n gyfrifol am baentio ein darluniau olew trawiadol.
Cyfansoddodd y Prifardd Tudur Dylan Jones englyn ar gyfer y gwesty, a chyfansoddwyd englyn ar gyfer y bwyty gan y Prifardd Mererid Hopwood, y ferch gyntaf i'w chadeirio yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Adeiladwyd ein bar a desg y dderbynfa gan Simon Hooper o gwmni Specialist Models yng Nghaerdydd.
Lluniwyd ein dodrefn derw gan Selwyn Thomas, y saer o Drefor.
Goruchwyliwyd yr holl waith adnewyddu gan y pensaer lleol Harry James a'r prif gontractwyr adeiladu Richard a John Jones o Jones Joinery, Cricieth. Roedd yr holl is-gontractwyr (trydanwyr, plymwyr, paentwyr, teilswyr, plastwyr, seiri coed, cyflenwyr gwydr, gofaint, bricwyr, a.y.b.) yn byw yn lleol neu'n dod o Gymru.

Yng Ngwesty Cymru gobeithiwn ein bod wedi creu amgylchedd o foethusrwydd i'ch maldodi, gan arddangos hefyd y gorau o'r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig.

Gobeithiwn y mwynhewch eich amser gyda ni.

     


Bwyty â Llofftydd

English | Croeso | Bwcio | Stafelloedd | Bwyty
Atyniadau & Gweithgareddau | Lleoliad | Amdanon Ni | Hygyrchedd

Gwefan gan Severn Media Group Ltd. Gwesty Cymru © 2007.