Please click here to view the site in English
GWESTY CYMRU HOTEL & RESTAURANT


CROESO
BWCIO
STAFELLOEDD
BWYTY
ATYNIADAU & GWEITHGAREDDAU
LLEOLIAD / CYSYLLTWCH Â NI
AMDANON NI
DATGANIAD HYGYRCHEDD


GWESTY CYMRU
19 Rhodfa'r Môr, Aberystwyth
Ceredigion SY23 2AZ

Ffôn: + 44 (0) 1970 612252
ebost:


Gwesty Cymru
datganiad hygyrchedd
Gwesty Cymru Hotel & Restaurant

Mae Gwesty Cymru yn adeilad rhestredig gradd 2 mewn ardal gadwraeth.
Mae'r gwesty yn rhif 19 Ffordd y Môr, Aberystwyth, ar y prif Bromenâd. Dilynwch yr arwyddion at lan y môr ac anelwch am y pier, gan deithio â'r môr ar yr ochr dde i chi a'r gwestai ar yr ochr chwith.
Mae'r gwesty gyferbyn â glanfa fechan ar yr ochr chwith, ychydig bellter o'r palmant.
Gellir aros y tu allan i'r gwesty i adael gwesteion allan o gerbyd.
Mae lleoedd parcio rhad ac am ddim am gyfnodau penodol ar hyd y Promenâd.
Gellir cadw lleoedd parcio preifat diogel drwy drefniant ymlaen llaw.

Y Brif Mynedfa

I fynd at y brif fynedfa o'r palmant mae gofyn dringo dau ris a thrwy gât, wedyn mynd ar hyd llwybr o 30 troedfedd sy'n goleddu i fyny ac sy'n arwain at chwe gris llechen sy'n bum troedfedd o led a rhwng 5" ac 8" o uchder, a rhwng 14" a 22" o ddyfnder.

Mae canllaw bob ochr i'r grisiau hyn.
Mae'r grisiau yn arwain at y porth ac un gris drwy'r drws ffrynt sy'n dair troedfedd o led ac yn 7" o uchder.
Nid yw ymyl flaen y grisiau hyn wedi ei hamlygu.
Mae'r brif fynedfa yn arwain at y cyntedd.
Mae desg y dderbynfa 30 troedfedd o'r brif fynedfa.
Does dim lle i eistedd yn y dderbynfa.
Mae rhywun yn gweithio yn y dderbynfa 24 awr y dydd, ac mae System Dolen Sain yno.
Mae desg y dderbynfa yn bedair troedfedd o uchder.
Mae clipfwrdd ar gael os na fyddai'r ddesg yn addas.
Mae mynedfa ar gael yn y cefn hefyd.
Lôn gefn gul sy'n arwain at y fynedfa hon ac mae gofyn troi cornel 90 gradd i fynd at y drws.
Un gris sydd wrth y fynedfa hon, ac mae'n 35½" o led, yn 8" o uchder ac yn 15½" o ddyfnder.
Nid yw ymyl flaen y gris wedi ei hamlygu ac nid oes canllaw yno.
Lled glir y drws wedi'i agor yw 27".
Mae'r trothwy yn 6" o uchder ac yn 27" o led.
Mae gwasanaeth porthor ar gael ar gyfer cludo bagiau.

Ystafell Wely

Mae wyth ystafell wely yn y gwesty.
Mae setiau teledu LCD wedi eu gosod ar y wal ymhob ystafell, gyda rheolydd pell, chwaraewyr DVD a Freeview, tegellau diwifr, sychwyr gwallt, offer smwddio, ffôn wrth erchwyn y gwely, a chysylltiad diwifr i'r we.
Mae golau da uwchben a golau ychwanegol wrth erchwyn y gwely.
Mae mannau storio ar gael ar sawl uchder gwahanol ac mae'n hawdd gafael yn y dolenni i agor gwahanol ddrysau'r mannau storio.
Mae dolenni trosol ar ddrysau'r holl ystafelloedd gwely, ac mae'r drysau'n agor i mewn.
Mae dolenni trosol ar ddrysau'r holl ystafelloedd ymolchi, ac maelr drysau'n agor i mewn, heblaw am ddrws Ystafell 8, sy'n agor allan.
Mae ystafelloedd ymolchi en-suite ymhob ystafell, gyda bath a/neu gawod ymhob un.
Mae carped ar loriau'r ystafelloedd gwely, a theiliau ar loriau'r ystafelloedd ymolchi.
Cerrig naturiol yw'r teiliau ar loriau'r ystafelloedd ymolchi, ac mae matiau bath er mwyn helpu i atal pobl rhag llithro.
Nid oes canllawiau bachu yn yr ystafelloedd ymolchi.
Mae'r gweithdrefnau dianc mewn tân wedi eu nodi'n glir ar gefn drws pob ystafell wely.
Mae dwy ystafell wely ar gael ar y llawr gwaelod.

Arwain at bob llawr

Does dim lifft ar gael.
Grisiau crwm â charped arno sy'n arwain at bob llawr, a chanllaw ar un ochr i'r grisiau (ar yr ochr dde i esgyn y grisiau, yr ochr chwith i'w disgyn).
Mae'r grisiau yn dair troedfedd o led, yn 6" o uchder ac yn 9.5" o ddyfnder.
Mae gofyn dringo 16 gris i gyrraedd y llawr cyntaf.
Mae 16 gris yn ychwanegol at hynny er mwyn cyrraedd yr ail lawr.
Mae 14 gris yn ychwanegol at hynny er mwyn cyrraedd y trydydd llawr.

Bwyty a Bar

Yn y seler y mae'r bwyty a'r bar, a gellir mynd yno drwy esgyn 14 gris o ddesg y dderbynfa. Mae'r grisiau hyn yn 30" o led, yn 10.5" o ddyfnder ac yn 7.5" o uchder.
Ar y llawr hwn y gweinir brecwast.
Gellir gweini brecwast yn yr ystafelloedd gwely ar gyfer pobl nad ydynt yn medru cyrraedd at y bwyty.
Mae gwasanaeth gweini ar gael bob amser.
Gellir darparu bwydlen print bras drwy drefniant ymlaen llaw.
Gellir darparu ar gyfer deietau arbennig drwy drefniant ymlaen llaw.
Mae tai bach y cwsmeriaid ar y llawr gwaelod.
Nid yw tai bach y cwsmeriaid wedi eu haddasu ar gyfer cadeiriau olwyn.

Miscellaneous

Mae croeso i gwn cymorth.
Larymau tân clywadwy sydd yn y gwesty. Mae'r perchnogion yn cydnabod nad yw hyn yn addas i bob gwestai o reidrwydd ac rydym yn barod i drafod ffyrdd eraill o rybuddio a gweithdrefnau dianc eraill adeg archebu neu gyrraedd y gwesty.

Rydym yn barod i roi cyngor ar addasrwydd y gwesty ar sail anghenion unigol, felly cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ofynion arbennig.

     


Bwyty â Llofftydd

English | Croeso | Bwcio | Stafelloedd | Bwyty
Atyniadau & Gweithgareddau | Lleoliad | Amdanon Ni | Hygyrchedd

Gwefan gan Severn Media Group Ltd. Gwesty Cymru © 2007.