Please click here to view the site in English
GWESTY CYMRU HOTEL & RESTAURANT


CROESO
BWCIO
STAFELLOEDD
BWYTY
ATYNIADAU & GWEITHGAREDDAU
LLEOLIAD / CYSYLLTWCH Â NI
AMDANON NI
DATGANIAD HYGYRCHEDD


GWESTY CYMRU
19 Rhodfa'r Môr, Aberystwyth
Ceredigion SY23 2AZ

Ffôn: + 44 (0) 1970 612252
ebost:


Gwesty Cymru
CLICIWCH YMA I WELD MWY
lleoliad / cysylltwch â ni

Mae Gwesty Cymru yn adeilad rhestredig Gradd 2 o'r cyfnod Sioraidd, ar bromenâd Fictoraidd Aberystwyth, yn wynebu'r môr. Dim ond dafliad carreg i ffwrdd mae nifer o boutiques a chaffis yng nghanol tref Aberystwyth, a dim ond 5 munud o gerdded o'r Gorsafoedd Trenau a Bysiau.

Ewch tua'r môr ac fe ddewch o hyd i ni. Os nad ydych am fentro dilyn eich trwyn, cliciwch ar y map.

Mae gennym leoedd parcio preifat a diogel. Os hoffech archebu lle parcio, rhowch wybod i ni mewn da bryd.

   CYFARWYDDIADAU TEITHIO MEWN CAR:
    A487 o'r De (Aberteifi, Caerfyrddin, De Cymru)

Ar ôl dod i mewn i Aberystwyth ar yr A487 o'r de, cymerwch y lôn gyntaf ar y gylchfan gan ddilyn yr arwydd "A487 Aberystwyth", a pharhewch am tua milltir nes cyrraedd Stryd y Bont. Ewch yn eich blaen yn syth heibio twr y cloc i Heol y Wig, yna dilynwch y ffordd ar y dde i gyrraedd Glan y Môr. Mae Gwesty Cymru i'w weld gyferbyn â glanfa fechan a phwll nofio awyr agored bychan - cadwch olwg am y graig fawr yn yr ardd.

    A487 o'r Gogledd (Machynlleth, Dolgellau, Gogledd Cymru)

Teithiwch i lawr allt Penglais, ewch ymlaen ar y ffordd hon gan gadw i'r chwith yn union ar ôl y goleuadau traffig. Cadwch at y lôn ar yr ochr dde, gan ddilyn y ffordd wrth iddi hi wyro i'r dde, ac ewch yn syth ymlaen pan gyrhaeddwch chi'r gylchfan, gan basio Gorsaf Aberystwyth ar y chwith. Pan ddewch ar gylchfan fechan, cymerwch yr ail lôn (syth ymlaen) a mynd ar hyd Dan Dre. Yn y gyffordd T, trowch i'r chwith a mynd ar hyd Stryd y Bont. Ewch yn syth ymlaen ar hyd Heol y Wig pan ddewch chi at dwr y cloc, yna dilynwch y ffordd sy'n mynd rownd i'r dde at Glan y Môr. Mae Gwesty Cymru i'w weld gyferbyn â glanfa fechan a phwll nofio awyr agored bychan - cadwch olwg am y graig fawr yn yr ardd.

    A44 O'r Dwyrain (Llangurig, Rhaeadr Gwy, y Drenewydd, Amwythig)

Ar ôl dod i mewn i Lanbadarn (gan basio'r orsaf betrol Shell ar y chwith), cymerwch y lôn gyntaf ar y gylchfan, ac ar unwaith, yr ail lôn ar yr ail gylchfan fechan, gan ddilyn yr arwydd "A44 Aberystwyth". Ewch yn eich blaen am tua milltir. Yn y gyffordd T, trowch i'r chwith a dilynwch y ffordd, gan gadw i'r chwith yn union ar ôl y goleuadau traffig. Cadwch at y lôn ar yr ochr dde, gan ddilyn y ffordd wrth iddi hi wyro i'r dde, ac ewch yn syth ymlaen pan gyrhaeddwch chi'r gylchfan, gan basio Gorsaf Aberystwyth ar y chwith. Pan ddewch ar gylchfan fechan, cymerwch yr ail lôn (syth ymlaen) a mynd ar hyd Dan Dre. Yn y gyffordd T, trowch i'r chwith a mynd ar hyd Stryd y Bont. Ewch yn syth ymlaen ar hyd Heol y Wig pan ddewch chi at dwr y cloc, yna dilynwch y ffordd sy'n mynd rownd i'r dde at Glan y Môr. Mae Gwesty Cymru i'w weld gyferbyn â glanfa fechan a phwll nofio awyr agored bychan - cadwch olwg am y graig fawr yn yr ardd.

   TRAFNIDIAETH GYHOEDDUS:

Mae gorsafoedd bysiau a threnau ar Ffordd Alexandra. Croeswch y ffordd i Ffordd y Môr a cherdded yn syth ymlaen tan i chi ganfod y môr, yna trowch i'r chwith. Gwesty Cymru yw'r pedwerydd drws o'r gornel honno, ychydig yn bellach oddi wrth y palma.

     


Bwyty â Llofftydd

English | Croeso | Bwcio | Stafelloedd | Bwyty
Atyniadau & Gweithgareddau | Lleoliad | Amdanon Ni | Hygyrchedd

Gwefan gan Severn Media Group Ltd. Gwesty Cymru © 2007.